Mae Banc Data SAIL wedi ymrwymo i gynnwys y cyhoedd mewn astudiaethau ymchwil. Mae gennym Banel Defnyddwyr gweithredol sy’n darparu persbectif y cyhoedd i ni ar ymchwil gysylltiadau data ac mae cyfleoedd i gynrychiolwyr lleyg ymuno â thimau astudiaethau ymchwil.
description Public Involvement & Engagement PolicyMae gan Fanc Data SAIL Banel Defnyddwyr hirsefydlog a sefydlwyd yn 2011. Ar hyn o bryd mae ganddo 16 aelod â recriwtio parhaus.
Mae aelodau’r panel yn ymwneud â phob elfen o broses Banc Data SAIL, o ddatblygu syniadau, cynghori ar geisiadau trwy brosesau cymeradwyo (trwy’r Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth annibynnol), i ledaenu canfyddiadau ymchwil.
Mae rôl y panel yn cynnwys;
I ddysgu rhagor am ein hymchwil i gysylltiadau data, lawrlwythwch ein taflen;
Mae’r tîm Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn mynychu llawer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo Banc Data SAIL a’r ymchwil a gynhelir wrth ddefnyddio’r data. Mae’r digwyddiadau yn cynnig y cyfleoedd i hyrwyddo’r gwaith a wneir gan ymchwilwyr, mesur barn y cyhoedd ar yr ymchwil, ac ysgogi cyfleoedd cydweithio.
Mae gan Fanc Data SAIL swyddog ymgysylltu â’r cyhoedd penodedig, Lynsey Cross.