Mae’n bosibl cysylltu data a gasglwyd yn allanol â data o Fanc Data SAIL yn amodol ar gymeradwyaeth. Er mwyn ymgorffori data newydd i Fanc Data SAIL at ddibenion cysylltu, mae dau gam syml:
Rhaid i’r ymchwilydd prosiect gwblhau a chyflwyno’r ffurflenni dilynol:
description Ffurflen Gais Caffael Data
description Ffurflen Gwmpasu Set Ddata Newydd
Bydd aelodau pwyllgor Rheoli Data SAIL yn archwilio eich cais i fod yn unol â pholisïau gweithredu SAIL ac yna’n anfon Cytundeb Rhannu Data SAIL.
Unwaith y bydd y Cytundeb Rhannu Data SAIL wedi’i lofnodi, byddwch yn gallu dechrau lanlwytho eich data.