Cais cychwynnol a dogfen gwmpasu (i’w gwblhau gan ddadansoddwr Banc Data SAIL yn dilyn trafodaeth am brosiect posibl)
Cais i gael cymeradwyaeth Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth (IGRP)
 thros 10 mlynedd o brofiad, mae gennym un o’r prosesau ymgeisio cyflymaf sydd ar gael, sef oddeutu 12 wythnos i gael cymeradwyaeth IGRP yn dilyn cyflwyno cais.  Banc Data SAIL, erbyn hyn nid oes angen i ymchwilwyr fynd trwy amseroedd aros hir sydd yn draddodiadol yn gysylltiedig â chyrchu data cyfoethog a hanfodol.
Gweithredu a Chwmpasu’r Prosiect
Trafodaeth gwmpasu i ffurfio syniad a hyfywedd prosiect, ac i gwblhau’r ddogfen gwmpasu sy’n nodi gweithgareddau, amserlenni, defnydd adnoddau a chostau cysylltiedig â Banc Data SAIL.
Yr ymchwilydd i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect os nad yw eisoes ar waith.
Y defnyddiwr i ymgymryd â Hyfforddiant Ymchwilydd Diogel neu ddarparu tystiolaeth o statws cymwysedig (gellir ei gwblhau ar unrhyw adeg cyn dechrau’r prosiect; adnewyddiad yn ofynnol bob dwy flynedd.
Llywodraethu Gwybodaeth
Yr Ymchwilydd i gwblhau cais IGRP, a llofnodi a chyflwyno dogfen gwmpasu.
Yn dilyn adolygiad IGRP, hysbysir yr ymchwilydd o’r canlyniad.
Ar gyfer mynediad o bell i Borth SAIL, yna gofynnir i ymchwilwyr gwblhau ffurflen Cais am Fynediad i Ddata a ffurflen Cais am Gyfrif Porth ynghyd â chopi o CV y defnyddiwr.
Bydd angen i bob defnyddiwr ddarparu tystiolaeth o neu gofrestru i gwblhau Hyfforddiant Ymchwilydd Diogel.
Rhoddir gofynion/adnoddau i’r defnyddwyr i ddechrau’r prosiect yn unol â chytundebau a gyflwynir yn y Ddogfen Gwmpasu.