Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno ein Hadroddiad Rhanddeiliaid sy’n amlygu gwaith a chyflawniadau’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023.
Bellach yn ei unfed flwyddyn ar bymtheg o weithredu, mae Banc Data SAIL yn adnodd ymchwil sy’n arwain y byd ac a gydnabyddir yn rhyngwladol fel rhan annatod o’r seilwaith gwybodeg cenedlaethol yng Nghymru ac fel arweinydd arloesi a syniadau ledled y DU.
