Amcangyfrif y defnydd o wasanaethau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr Cymru

Mae astudiaeth ddichonoldeb newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn PLOS ONE wedi dangos ei bod yn dechnegol bosibl asesu anghenion pobl ifanc sydd wedi byw mewn safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan ddefnyddio data cysylltiedig a gesglir yn rheolaidd.

Er hynny, amlyga’r astudiaeth dangynrychiolaeth o’r grwpiau ethnig hyn o fewn setiau data iechyd a gweinyddol sy’n rhwystr mawr i allu asesu anghenion y boblogaeth hon yn gywir.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Louise Condon ac Ann John, a chafodd fudd o’r cysylltiad uniongyrchol gan aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr Mrs Anne Crocker a Mr Tyrone Price. Fe’i hariannwyd gan MQ Mental Health Research gyda chefnogaeth DATAMIND, y Ganolfan Data HDRUK ar gyfer Iechyd Meddwl a ariennir gan MRC.

Roedd y tîm ymchwil yn cynnwys yr Uwch Wyddonydd Data, Sarah Rees, a’r Athro Cyswllt Richard Fry o Wyddor Data Poblogaeth, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, a’r Athro Jason Davies o Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Prifysgol Abertawe. Defnyddiodd yr ymchwil setiau data dienw Platfform Data Iechyd Meddwl y Glasoed (ADP). Roedd hyn yn gysylltiedig â data iechyd a demograffig ym Manc Data SAIL a chyfrifiadau carafanau Sipsiwn a Theithwyr Cymru a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru. Ariennir yr ADP hefyd gan MQ Mental Health Research.

Yn ôl cyfrifiad 2011, nododd tua 55,000 o bobl yn Lloegr a 3,000 yng Nghymru (tua 0.1% o gyfanswm poblogaethau’r ddwy wlad) eu hethnigrwydd fel Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig. Er hynny, credir bod hyn yn amcangyfrif rhy isel o’r boblogaeth go iawn.

Dengys astudiaethau blaenorol yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol difrifol ac iechyd corfforol a meddyliol gwaeth mewn grwpiau ethnig Sipsiwn a Theithwyr nag mewn poblogaethau eraill.

Defnyddiwyd data GIG dienw o Gymru, a gedwir yn yr ADP, i archwilio iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn ogystal â rhestrau codau a ddatblygwyd gan ADP ar gyfer diffinio cyflyrau iechyd meddwl, ac algorithmau i amcangyfrif mesurau mynychder a chyffredinolrwydd. Roedd y data hwn yn gysylltiedig â data demograffig ac iechyd (gofal sylfaenol ac eilaidd) o fewn Banc Data SAIL.

Gan ddefnyddio technegau dadansoddi gofodol daearyddol, roedd y tîm yna’n gallu cysylltu’r data hwn yn ddiogel ac yn ddienw â Chyfrif Carafanau Sipsiwn a Theithwyr Cymru. Gwnaethpwyd hyn ddwywaith y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru; cyfrifiad o garafannau ar safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig.

Canfu’r tîm ymchwil argaeledd cyfyngedig o ddata hanesyddol o Gymru. Cyn 2017, nid oedd cod penodol ar gyfer ethnigrwydd Sipsiwn a Theithwyr yn nata iechyd Cymru. Ers hynny, nid yw’n glir i ba raddau y mae’r cod ethnigrwydd Sipsiwn a Theithwyr newydd wedi’i roi ar waith yng Nghymru ac nid yw maint y data sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigonol ar gyfer y math hwn o astudiaeth.

Wrth wneud sylwadau ar ganfyddiadau’r astudiaeth, meddai Sarah Rees, “Er ei fod yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a chael ei gynnwys fel grŵp ethnig yng Nghyfrifiad Cymru a Lloegr 2011, anaml y mae data iechyd gwladol am ethnigrwydd Sipsiwn a Theithwyr wedi cael ei gofnodi hyd yn ddiweddar. Er na welsom unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng ein carfan a’r boblogaeth gyffredinol o ran cyfraddau CMD neu hunan-niwed, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli hyn gan fod ein carfan yn debygol o fod yn is-grŵp yn unig o’r holl Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.”

Awgryma’r ymchwil hwn bod diffyg gwelededd i Sipsiwn a Theithwyr mewn setiau data iechyd a gweinyddol arferol yn rhwystr sylweddol i gydnabod yr angen a’r ddarpariaeth o wasanaethau, yn enwedig yng ngoleuni newidiadau a awgrymir i ffynonellau data allweddol a ddefnyddir ar gyfer comisiynu, megis cyfrifiad y DU. Awgryma hefyd y dylai darparwyr gwasanaethau iechyd yng Nghymru sicrhau bod cynlluniau i gofnodi ethnigrwydd Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu gweithredu’n llawn ar draws yr holl setiau data er mwyn sicrhau bod gan grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol lais o ran darparu gwasanaethau ac ad-drefnu.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn yma –https://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0281504#:~:text=and%20Traveller%20site.-,Conclusion,in%20Gypsy%20and%20Traveller%20sites