Sefydliadau sy'n gweithio gyda Banc Data SAIL














Tystebau
“Mae SAIL yn cynnig adnodd data cyfoethog yr ymddiriedir ynddo, eithriadol mewn sawl ffordd, gan gynorthwyo ymchwil er budd cleifion a’r cyhoedd: cyfleuster hanfodol ar gyfer gwyddoniaeth tîm rhyngddisgyblaeth.”

“Os hoffech wybod sut y gallai cysylltu data yn y DU edrych yn negawdau’r dyfodol, cymerwch olwg ar le mae SAIL ar hyn o bryd.”

“Mae SAIL wedi pennu’r meincnod byd-eang ar gyfer arloesedd, diogelwch ac ansawdd ymchwil iechyd poblogaeth yn seiliedig ar gofnodion data wedi’u cysylltu. Bydd manteision SAIL yn cael eu gweld am genedlaethau i ddod.”

“Fe wnes i gais yn ddiweddar am fynediad at ddata SAIL mewn astudiaeth yr wyf yn ei chynnal ac roeddwn yn disgwyl iddi fod yn broses hirwyntog a dweud y gwir, yn enwedig ar hyn o bryd (yn ystod COVID-19). Mewn gwirionedd, roedd yr holl beth yn anhygoel o syml a chyflym a dim ond ychydig ddiwrnodau ar ôl cyflwyno’r dogfennau gofynnol, cafodd fy nhocyn dilysu ei ddanfon i fy nghartref. Roedd y cyfarwyddiadau defnyddio hefyd yn eglur ac yn hawdd eu dilyn.”

“Roeddem ni eisiau mesur yn gyflym yr effaith y mae Gofal Sylfaenol yn ei chael ar reoli Diabetes a sut mae hyn yn effeithio ar hyd yr arhosiad pan fydd y cleifion hyn yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Golygodd y data cysylltiedig a chymeradwyaeth foesegol gyflym y dechreuodd y gwaith yn brydlon… Fe wnaethom ni elwa o gwestiwn ymchwil penodol a gyda’r cymorth ystadegol a dadansoddol a wnaed ar gael gan Fanc Data SAIL fe wnaethom ni allu darganfod yn gyflym pa ffactorau oedd yn effeithio fwyaf ar hyd arhosiad. Rydym yn bwriadu defnyddio’r dull i wneud rhywfaint o waith tebyg ar glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.”

Previous
Next