Astudiaeth newydd gwerth £2.2 filiwn i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i atal cyflyrau iechyd hir dymor lluosog

Mae ymchwilwyr o’r SAIL Databank yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn cydweithio â thîm dan arweiniad Prifysgol Southampton ac sydd hefyd yn cynnwys Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Glasgow, a Phrifysgol Aberdeen.  

Mae’r prosiect canolog amlddisgyblaethol, aml-ganolfan newydd hwn, Multidisciplinary Ecosystem to study Lifecourse Determinants and Prevention of Early-onset Burdensome Multimorbidity (MELD-B), yn ymchwilio i ffactorau risg a phwyntiau amser allweddol mewn bywyd er mwyn atal cyfuniadau penodol o gyflyrau hirdymor fel diabetes, clefyd y galon, iselder neu ddementia.

Mae niferoedd cynyddol o bobl yn byw gyda’r cyflyrau iechyd hirdymor hyn, a elwir yn aml-forbidrwydd cyflyrau hirdymor lluosog.  Mae llawer o agweddau dros oes y person yn dylanwadu ar y risg o ddatblygu’r cyflyrau hyn, gan gynnwys ffactorau biolegol, ymddygiad a phrofiadau bywyd ehangach, megis addysg a gwaith. Fodd bynnag, mae pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig a/neu o gefndiroedd ethnig penodol yn fwy tebygol o ddatblygu aml-forbidrwydd, a hynny’n gynharach.

Er mwyn deall mwy am y pethau sy’n dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn datblygu aml-forbidrwydd yn gynnar (cyn 65 oed) dros eu hoes a’r baich sy’n dilyn hynny, bydd yr astudiaeth yn defnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial (AI) i gysylltu gwybodaeth a dealltwriaeth o dair astudiaeth carfan geni o bobl a anwyd yn yr un flwyddyn ac a ddilynwyd drwy gydol eu bywydau â dwy ffynhonnell fawr o ddata o gofnodion iechyd electronig (EHR).

Byddant hefyd yn ymchwilio i’r drefn y mae pobl yn datblygu cyflyrau ynddi a sut maent yn grwpio gyda’i gilydd i fod yn ‘feichus’.  Bydd yr astudiaeth gwerth £2.2 filiwn, a ariennir gan yr NIHR, yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o faes iechyd y cyhoedd, gofal sylfaenol, mathemateg a chyfrifiadureg o bum prifysgol, yn ogystal â chyngor y ddinas ac ymddiriedolaethau ysbytai.  Bydd y tîm ymchwil yn cydweithio â chyfranwyr o’r cyhoedd a chyda chleifion er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn amserol ac yn berthnasol.

Mae’r astudiaeth yn cael ei harwain gan Dr Simon Fraser a Dr Nisreen Alwan ac mae’n rhan o raglen Deallusrwydd Artiffisial yr NIHR ar Aml-forbidrwydd Cyflyrau Hirdymor Lluosog (AIM).

Dywedodd Dr Fraser, Athro Cysylltiol Iechyd y Cyhoedd: “Mae aml-forbidrwydd cyflyrau hirdymor lluosog yn fwy tebygol o ddatblygu’n gynnar ymhlith pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol ac o gefndiroedd ethnig penodol. Bydd defnyddio technegau AI yn ein galluogi i astudio’r oes gyfan a nodi targedau a phwyntiau amser allweddol ar gyfer gweithredu i atal effaith ar iechyd y cyhoedd. Mae’n bleser gennyf weithio gyda chydweithwyr ym maes mathemateg, ystadegau, cyfrifiadureg a pholisi ar draws nifer o sefydliadau ynghyd ag aelodau o’r cyhoedd, i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn ym maes iechyd y cyhoedd.”

Ychwanegodd Dr Alwan, Athro Cysylltiol mewn Iechyd y Cyhoedd: “Dyma gyfle gwych i ddatblygu dull gweithredu sydd wedi’i gyd-gynhyrchu gyda’r cyhoedd a chydweithwyr o wahanol ddisgyblaethau sy’n ceisio ymchwilio i benderfynyddion cynnar aml-forbidrwydd ac archwilio sut mae anghydraddoldebau iechyd dros oes gyfan yn cael eu llunio ac felly sut i fynd i’r afael â nhw.”

Meddai Dr Rhiannon Owen, Athro Cysylltiol Ystadegau, “Wrth i boblogaethau byd-eang fyw’n hirach, mae cyflyrau hirdymor lluosog ac aml-forbidrwydd yn bryder iechyd mawr ym mhedwar ban byd, gyda goblygiadau enfawr i ddarparwyr gwasanaethau iechyd fel y GIG. Mae dulliau wedi’u targedu ar gyfer atal neu ohirio datblygu cyflyrau hirdymor lluosog yn hanfodol wrth gynllunio gofal iechyd y dyfodol a gwella canlyniadau i gleifion. Dyma gyfle cyffrous i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ledled y DU i sicrhau bod budd i gleifion a’r cyhoedd wrth wraidd gweithgarwch datblygu dadansoddol mewn ymchwil gofal iechyd. “

Dywedodd Ashley Akbari, Uwch-reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data, “Mae cydweithrediadau Gwyddoniaeth Tîm megis MELD-B yn hanfodol mewn ymchwil er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r ystod eang o ddata sydd ar gael ar hyn o bryd mewn amgylcheddau ymchwil dibynadwy ledled y DU, ac mae gan y grŵp Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe hanes cryf o gydweithio aml-sefydliadol ac amlddisgyblaethol fel hyn. Rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o’r prosiect hwn a fydd yn dwyn ynghyd ystod eang o gydweithwyr a rhanddeiliaid o’r byd academaidd, polisi, iechyd ac aelodau o’r cyhoedd i sicrhau bod yr ymchwil a ddarparwn yn cael effaith a gwerth i bobl a gwasanaethau.”