Astudiaeth Newydd yn Dangos Pŵer Cysylltu Data Heddlu a Gofal Iechyd i Nodi Unigolion sy’n Agored i Niwed

Mae cysylltu data heddlu a gofal iechyd wedi datgelu bod modd canfod unigolion hynod agored i niwed cyn i’r heddlu ddod yn rhan o’u bywydau. Nawr mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn dweud y gallai rhannu a chysylltu data helpu i leihau nifer y galwadau i’r heddlu a derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol.

Nod yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn The Lancet Public Health, ac a arweiniwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, oedd dangos ymarferoldeb a manteision cysylltu data heddlu a gofal iechyd.

Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, sydd â’r nod o atal troseddau, yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu, llywodraeth leol a’r GIG gydweithio ar strategaethau lleihau troseddau ar y cyd sy’n cynnwys rhannu data i lywio ymatebion wedi’u targedu. Mae data ar gyfer unigolion yn cael ei rannu, ond yn anaml iawn y caiff potensial llawn rhannu set ddata asiantaeth gyfan a chysylltu â data sefydliadau eraill ei archwilio’n llawn.

Arsylwodd y tîm ymchwil ddata hanesyddol i sefydlu’r ffactorau sy’n gysylltiedig â rhagweld derbyniad meddygol brys yn dilyn cyflwyno atgyfeiriad diogelu’r cyhoedd ar gyfer cyflawnwr trais domestig.

Roedd grŵp yr astudiaeth yn cynnwys 8,709 o drigolion yn byw yn ne Cymru a gafodd atgyfeiriad diogelu’r cyhoedd rhwng 12/08/2015 a 31/03/2020. Ffurfiwyd dau grŵp; y dioddefwyr hynny a brofodd dderbyniad meddygol brys neu farwolaeth o fewn blwyddyn i atgyfeiriad diogelu’r cyhoedd, a’r rhai na wnaethant.

Defnyddiodd yr astudiaeth fanc data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw), ym Mhrifysgol Abertawe, gan ei fod yn cwmpasu cofnodion iechyd electronig ledled y wlad ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd, ac mae hefyd yn dal data a chofnodion gweinyddol a demograffig am farwolaethau a gasglwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ar gyfer yr astudiaeth hon, daethpwyd â data a gynhyrchwyd gan yr heddlu i greu cofnodion atgyfeirio diogelu’r cyhoedd i SAIL.

Fel rhan o’r ymchwil, defnyddiodd y tîm ddadansoddiad coeden benderfynu hefyd i nodi ffactorau sy’n gysylltiedig â risg y bydd y dioddefwr yn cael ei dderbyn mewn argyfwng yn y dyfodol.

Deuddeg mis ar ôl cyflwyno’r atgyfeiriad diogelu’r cyhoedd cychwynnol o’r 8,709 o gyfranogwyr, derbyniwyd 3,544 o ddioddefwyr i’r adran damweiniau ac achosion brys, ac roedd cyfanswm o 48 o farwolaethau.

Roedd y ffactorau hanfodol sy’n gysylltiedig â derbyniad meddygol brys i’r dioddefwr o fewn 12 mis i atgyfeiriad diogelu’r cyhoedd yn cynnwys:

  • Mynd at y gwasanaethau gofal iechyd brys fwy na 3 gwaith mewn tair blynedd;
  • Yn iau na 19 oed neu’n hŷn na 70 oed;
  • Bod yn ysmygwr sigaréts, neu’n derbyn cyngor rhoi’r gorau i ysmygu (ymddygiad dibyniaeth);
  • Bod wedi’i anafu yn y digwyddiad;
  • Cyffuriau system nerfol ganolog wedi’u rhagnodi;
  • Cyffuriau i drin heintiau wedi’u rhagnodi;
  • Beichiogrwydd yn yr aelwyd.

Canfu’r tîm mai arsylwi data gofal iechyd o un i dair blynedd cyn i atgyfeiriad diogelu’r cyhoedd sefydlu mai derbyniadau brys oedd y ffactor risg mwyaf arwyddocaol i’r dioddefwyr hynny a fydd yn cael eu derbyn mewn argyfwng yn y dyfodol.

Gallai’r dioddefwyr gael eu rhannu’n grwpiau o risg amrywiol; roedd y grŵp risg uchaf yn hysbys i’r gwasanaethau gofal iechyd brys, roedd y nesaf yn llai hysbys i’r gwasanaethau gofal iechyd brys, ond roeddent yn hysbys i’r heddlu, ac nid oedd y grŵp olaf yn hysbys i ofal iechyd na’r heddlu ond yn hysbys i’w meddygon teulu.

Dywedodd Dr Tash Kennedy, un o’r ymchwilwyr arweiniol: “Mae cysylltu data heddlu a gofal iechyd wedi dangos y gellir canfod unigolion hynod fregus mewn sawl set ddata gofal iechyd cyn cynnwys yr heddlu. Mae ein gwaith yn nodi ac yn rhestru’r ffactorau risg hanfodol sy’n gysylltiedig â derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol yn dilyn yr alwad atgyfeirio diogelu’r cyhoedd gyntaf.

“Mae’r ymchwil hon yn dangos y gallai rhannu a chysylltu data helpu i leihau galwadau i’r heddlu a derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Sinead Brophy, prif ymchwilydd a chyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd y Boblogaeth: “Mae ein hastudiaeth yn dangos y cyfleoedd posibl sydd ar gael ar gyfer mesurau amddiffynnol pan fydd asiantaethau’n rhannu gwybodaeth. Gall rhannu data alluogi dyrannu adnoddau’n effeithlon ac wedi’u targedu – ar gyfer yr heddlu drwy atal galwadau yn y dyfodol ac ar gyfer gofal iechyd drwy atal ymweliadau oherwydd anaf, a fyddai’n lleihau’r straen ar y GIG.

“Fel Canolfan, edrychwn ymlaen at weithio gyda’r heddlu, gwasanaethau gofal iechyd, a phartneriaid eraill i ddatblygu’r ymchwil hon a gwella rhannu data.”

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Ben Rowe o Heddlu De Cymru: “Mae’r ymchwil yn dangos y potensial i wella diogelu i unigolion sydd mewn perygl. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r canfyddiadau i wella’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar gysylltu data a bod yn arloesol wrth rannu gwybodaeth lle mae’n gymesur i amddiffyn pobl rhag niwed.”