Banc Data SAIL wedi’i feincnodi yn erbyn platfformau ymchwil data iechyd ewropeaidd

Mae pandemig Covid-19 wedi dwysáu ymdrechion i leihau’r rhwystrau i ddod â data iechyd aml-genedl, aml-sefydliadol, ynghyd at ddibenion ymchwil gofal iechyd.

Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys amrywiadau o ran fframweithiau llywodraethu a rheoleiddio, safonau cofnodi data ac ansawdd data a heriau sy’n gysylltiedig â gallu systemau i ryngweithredu. Mae COVID-19 wedi cyflymu awydd yn y gymuned ymchwil a gwyddonol i symud y tu hwnt i ymagweddau traddodiadol at ymchwil data iechyd lle mae pawb yn gweithio mewn ‘seilos’.

Tua diwedd 2020, bu’r Health Data Hub,, sefydliad yn Ffrainc a grëwyd yn 2019 i ddod â data, offer a phlatfformau ynghyd i wella iechyd dinasyddion, yn cynnal astudiaeth feincnodi o sefydliadau tebyg. Nod yr astudiaeth oedd rhannu gwybodaeth ac arfer gorau, gwella safonau a meithrin cydweithrediad yn y dyfodol at ddiben gwelliannau iechyd cyhoeddus ar draws Ewrop. Mae’r gwaith hwn yn rhan o fenter Lle Data Iechyd Ewrop y Comisiwn Ewropeaidd sy’n hyrwyddo cyfnewid Cofnodion Iechyd Electronig at ddiben ymchwil ddiogel a mynediad atynt.

europe-g467e0ac1f_1920

Roedd yr ymarfer meincnodi yn cynnwys 17 o sefydliadau o 11 o wledydd. Roedd gan Fanc Data SAIL rôl flaenllaw yn yr ymarfer hwn, ynghyd â 10 sefydliad arall sy’n gyfrifol am ‘gynnal a chymeradwyo mynediad i ddata iechyd.’ Gwnaed cymariaethau ar draws gweithgareddau gweithredol, ariannol ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Gyda phwyslais ar thema cyfathrebu, amlygwyd Banc Data SAIL am ei chanllawiau a’i adnoddau gwybodaeth ar-lein sy’n cynnwys catalog metaddata, polisi cyhoeddiadau, sylwadau profiad defnyddwyr a gwybodaeth sydd wedi’i thargedu i’r cyhoedd y mae eu data wedi’u hymddiried i amgylchedd diogel SAIL.

Wedi’i feincnodi yn erbyn meini prawf cynnwys y cyhoedd, tynnwyd sylw hefyd at arbenigedd Banc Data SAIL ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd ei bersonél a’i ymdrechion dros dryloywder cyhoeddus, cynnwys lleisiau’r cyhoedd wrth reoli mynediad at ddata SAIL a’r ‘panel defnyddwyr’ a sefydlwyd i helpu i ddatblygu syniadau ymchwil.

Yn olaf, cafodd Banc Data SAIL ei gydnabod yn un o’r ‘blaengarwyr yn ystod yr ymateb i COVID-19, a soniwyd amdano am ei waith rheoli data COVID-19, gan wneud y data’n hygyrch yn gyflym at ddibenion ymchwil gymeradwy a’i ddefnydd o gatalog metaddata effeithiol.

Meddai’r Athro Ronan Lyons, Athro Iechyd Cyhoeddus a Chyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL: “Dros y 15 mlynedd diwethaf, drwy arloesi a gwaith caled, mae’r tîm y tu ôl i Fanc Data SAIL wedi creu un o blatfformau storio a chyrchu data iechyd mwyaf blaenllaw’r byd, felly rydym yn falch o gael ein meincnodi yn erbyn enghreifftiau eraill o arfer da ym maes data iechyd ledled Ewrop. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’n cydweithwyr rhyngwladol wrth i ni ddychwelyd i fywyd normal yn dilyn y pandemig a gwella ein cyd-barodrwydd ar gyfer argyfyngau iechyd y dyfodol.”

Y gobaith yw y bydd y gwaith dadansoddi meincnodi hwn yn golygu y gellir defnyddio arfer gorau Ewropeaidd a rhyngwladol i ddatblygu ecosystem data iechyd sydd o fudd i ddinasyddion yn fyd-eang.

Mae’r adroddiad llawn ar y dadansoddi meincnodi ar gael yma – https://www.health-data-hub.fr/actualites/benchmark-international

GAN CHRIS ROBERTS, PRIFYSGOL ABERTAWE