Canlyniadau bylchau yng nghyfraddau brechu COVID: Banc Data SAIL yn cyfrannu at yr astudiaeth gyntaf o 67 miliwn o bobl yn y DU

Mae’r astudiaeth ymchwil gyntaf o boblogaeth gyfan y DU yn amlygu bylchau yng nghyfraddau brechu Covid-19. Roedd rhwng traean a hanner o boblogaethau pedair cenedl y DU heb gael y nifer cymeradwy o frechiadau COVID a phigiadau atgyfnerthu erbyn haf 2022.

Mae canfyddiadau’n awgrymu y gellid bod wedi atal mwy na 7,000 o farwolaethau a chyfnodau yn yr ysbyty yn ystod haf 2022 pe bai’r DU wedi cael cyfraddau brechu gwell, yn ôl y papur, a gyhoeddwyd yn The Lancet.

Mae’r ymchwil yn taflu goleuni ar gyfraddau a phetruster brechu a gallai ddylanwadu ar lunwyr polisi wrth i ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus ar gyfer Covid-19 a brechlynnau ffliw barhau i gael eu cyflwyno’r gaeaf hwn.

Yng Nghymru, defnyddiwyd Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe i ddarparu data dienw, a oedd yn cyfuno cofnodion iechyd Cymru â data o sawl astudiaeth annibynnol o frechu Covid-19.  Roedd y setiau data dienw hyn y gellir eu cysylltu ar gael at ddefnydd diogel yn SAIL ar gyfer ymchwilwyr astudiaethau cymeradwy. Cafodd y canlyniadau hyn eu cyfuno â rhai o Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy eraill ar draws y pedair cenedl i gynnal dadansoddiadau ledled y DU.

Meddai’r Athro Ronan Lyons, Cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL: “Mae’r astudiaethau ar raddfa fawr hyn ar gyfer poblogaethau cyfan yn hynod fuddiol wrth gynnal ymchwil i gyfeirio rheolaeth wyddonol o epidemigau a bygythiadau eraill i iechyd. Rydym yn hynod ddiolchgar i boblogaeth Cymru a’r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gwneud eu data a ddiogelir gan fesurau preifatrwydd ar gael i gynnal y gwaith ymchwil hanfodol hwn”.

Roedd yr astudiaeth hon, a arweiniwyd gan Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK) a Phrifysgol Caeredin, yn dibynnu ar fynediad diogel at ddata iechyd dienw i bawb ym mhedair cenedl y DU, datblygiad a oedd ond yn bosib yn ystod y pandemig. Dywed yr ymchwilwyr y gallai’r ymagwedd hon gael ei hestyn i lawer o feysydd meddygaeth eraill gyda photensial gwych i ddarganfod pethau newydd er mwyn deall a thrin clefydau.

Meddai’r Athro Syr Aziz Sheikh, Cyfarwyddwr Sefydliad Usher ym Mhrifysgol Caeredin, a chyd-arweinydd yr astudiaeth: “Mae astudiaethau data ar raddfa fawr wedi bod yn hollbwysig i reoli pandemig, gan alluogi gwyddonwyr i wneud canfyddiadau sy’n berthnasol i bolisïau’n gyflym. Mae brechlynnau Covid-19 yn achub bywydau. Wrth i amrywiolion newydd ddod i’r amlwg, bydd yr astudiaeth hon yn helpu i nodi grwpiau yn ein cymdeithas ac ardaloedd yn y wlad y dylai ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus eu targedu a chael eu teilwra ar gyfer y cymunedau hynny”.

Cafwyd dechrau cryf wrth gyflwyno brechlynnau Covid-19 yn gynnar yn y DU, gyda thros 90% o’r boblogaeth dros 12 oed yn cael o leiaf un dos o’r brechlyn erbyn mis Ionawr 2022. Serch hynny, roedd cyfraddau pigiadau atgyfnerthu dilynol ar draws y DU yn anhysbys tan nawr.

Bu gwyddonwyr o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru’n astudio data’r GIG a gedwir yn ddiogel a’i gasglu rheolaidd gan bawb dros 5 oed rhwng 1 Mehefin a 30 Medi 2022.

Yna cafodd data o’r pedair cenedl ei gronni a’i gysoni – neu ei wneud yn fwy unffurf – camp nad oedd yn bosib tan nawr. Cafodd pobl eu grwpio fesul statws brechu, gyda diffyg brechu wedi’i ddiffinio fel heb gael pob dos o’r brechlyn yr oedd y person hwnnw’n gymwys amdano.

Dyma’r canfyddiadau:

  • Roedd cyfran y bobl a oedd heb eu brechu’n llawn ar 1 Mehefin 2022 yn amrywio o rhwng traean a hanner y boblogaeth – 45.8% ar gyfer Lloegr, 49.8% ar gyfer Gogledd Iwerddon, 34.2% ar gyfer yr Alban a 32.8% ar gyfer Cymru.
  • Mae dulliau modelu’n awgrymu y gellid bod wedi osgoi 7,180 o gyfnodau yn yr ysbyty a marwolaethau allan o 40,400 o achosion difrifol o Covid-19 yn haf 2022
  • Arweiniodd diffyg brechu at fwy o bobl yn mynd i’r ysbyty a marwolaethau ar draws yr holl grwpiau oedran yn yr astudiaeth – roedd y rhai dros 75 oed ddwywaith yn fwy tebygol o gael canlyniad gwael ar ôl dal Covid-19 o’u cymharu â’r bobl hynny a oedd wedi’u diogelu’n llawn. 
  • Cafwyd y cyfraddau uchaf o bobl heb eu brechu’n llawn ymysg pobl iau, dynion, pobl mewn ardaloedd o amddifadedd uchel a phobl o ethnigrwydd nad oedd yn wyn.

Dywed ymchwilwyr fod yr astudiaeth – yr un fwyaf a gynhaliwyd erioed yn y DU – hefyd yn cyflwyno cyfnod newydd ar gyfer gwyddoniaeth y DU drwy oresgyn heriau wrth uno data’r GIG sy’n cael ei gasglu a’i storio mewn ffyrdd gwahanol rhwng y cenhedloedd datganoledig.

Meddai’r Athro Cathie Sudlow, Prif Wyddonydd Ymchwil Data Iechyd y DU a Chyfarwyddwr Canolfan Gwyddor Data y British Heart Foundation (BHF), “Mae’r isadeiledd bellach yn bodoli i wneud defnydd llawn o botensial data a gesglir yn rheolaidd yn y GIG ar draws pedair cenedl y DU. Credwn y gallem ac yn dylem estyn yr ymagweddau hyn at lawer o feysydd eraill meddygaeth, megis canser, clefyd y galon a diabetes i chwilio am ddealltwriaeth well o glefydau a ffyrdd gwell o’u hatal a’u trin”.

Cafodd yr astudiaeth – o’r enw COALESCE – ei sefydlu i ddarparu dealltwriaeth ar sail data i lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig o gyfraddau brechu COVID-19 a chreu dulliau ac isadeiledd rhannu data i baratoi’r ffordd ar gyfer astudiaethau ledled y DU yn y dyfodol. Caiff ei harwain gan HDR UK a Phrifysgol Caeredin, ar y cyd â thimau ymchwil o’r pedair cenedl.