CYFFREDINOL
Mae SAIL yn sefyll am Secure Anonymised Information Linkage (Cysylltu Gwybodaeth Dienw Diogel). Adnodd ymchwil Cymru gyfan yw Banc Data SAIL, sy’n canolbwyntio ar wella iechyd, llesiant a gwasanaethau. Cydnabyddir ei fanc data o ddata dienw am boblogaeth Cymru yn fyd-eang.
Mae Banc Data SAIL yn derbyn cyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Llywodraeth Cymru. Cedwir amrywiaeth o setiau data dienw sy’n seiliedig ar bobl ym Manc Data SAIL, ac yn amodol ar fesurau diogelu a chymeradwyaeth, gellir cysylltu’r rhain at ei gilydd yn ddienw i fynd i’r afael â chwestiynau ymchwil pwysig.
Mae Banc Data SAIL wedi ymrwymo i weithio gydag ymchwilwyr, y GIG a rhanddeiliaid cysylltiedig ag iechyd eraill i gyflawni prosiectau sy’n arwain at well gofal cleifion, budd cyhoeddus a gwelliannau i iechyd a llesiant. Mae Banc Data SAIL yn gwneud data ar gael at ddibenion ymchwil gwirioneddol dim ond pan fo potensial ar gyfer budd. Gan fo Banc Data SAIL yn cadw data dienw yn unig, mae ymchwilwyr yn gwneud eu gwaith heb wybod pwy yw’r unigolion a gynrychiolir yn y setiau data.
Ydy – nid yw Banc Data SAIL yn derbyn na thrin data y gellir adnabod pobl ohonynt. Caiff y manylion adnabod a gydnabyddir yn gyffredin eu dileu cyn i setiau data gyrraedd Banc Data SAIL, ac felly ni all Banc Data SAIL ail-lunio’r setiau data y gellir adnabod pobl ohonynt. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Oherwydd y gellir cysylltu setiau data SAIL â’i gilydd, gallant helpu i ddarparu atebion i gwestiynau ymchwil cymhleth a manwl iawn. Rhoddwn rai enghreifftiau yma:
- A yw clefyd x yn cynyddu neu’n lleihau?
- Beth yw canlyniadau hirdymor polisi gwrth ysmygu Llywodraeth Cymru?
- A allai meddyginiaeth yn ystod plentyndod cynnar effeithio yn ddiweddarach pa mor dda maen nhw’n ei wneud yn yr ysgol?
- Faint o gleifion fyddai’n elwa o driniaeth newydd (wedi’i chefnogi gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) a faint fyddai hon yn ei gostio?
- Os caiff gofal ei ailgynllunio mewn ffordd benodol, beth fydd yr effaith debygol ar wasanaethau meddygon teulu a gwasanaethau ysbyty, ac ar wahanol boblogaethau – er enghraifft gwahanol grwpiau oed?
- Faint mae tlodi yn effeithio ar yr angen a’r galw am wasanaethau iechyd?
- A oes digon o gleifion sy’n addas ar gyfer treial clinigol newydd mewn ardal benodol yng Nghymru?
Mae Banc Data SAIL yn fanc data dienw ac nid yw’n derbyn nac yn trin data y gellir adnabod pobl ohonynt. Mae sefydliadau sy’n darparu data i Fanc Data SAIL yn gwneud hynny trwy Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy’n gweithredu fel ein Trydydd Parti yr Ymddiriedir Ynddo (TTP) ar gyfer anonymeiddio ac amgryptio.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyfnewid yr eitemau y cydnabyddir yn gyffredin y gellir adnabod pobl ohonynt (gan gynnwys enw, cyfeiriad a dyddiad geni) ar gyfer pob person am god wedi’i amgryptio ac yn anfon hwn, ynghyd ag ychydig iawn o wybodaeth (am rywedd, ardal breswylio ac wythnos geni) i SAIL.
Trwy ddefnyddio cod wedi’i amgryptio sy’n unigryw i bob person a gynrychiolir yn y setiau data, gellir cysylltu data yn ddienw â’i gilydd a’u defnyddio ar gyfer ymchwil gan ddiogelu preifatrwydd unigolion.
Mae Banc Data SAIL yn falch o fod yn gysylltiedig â’r sefydliadau lawer sy’n darparu fersiwn ddienw o’u setiau data i Fanc Data SAIL. Mae rhestr o ddarparwyr hyd yma a’u setiau data SAIL craidd ar gael yma:
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Echdyniad Genedigaethau Rhanbarthol Blynyddol
- Echdyniad Marwolaethau Rhanbarthol Blynyddol
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Set Ddata Adrannau Achosion Brys
- Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol
- Set Ddata Cleifion Allanol
- Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru
- Gwasanaeth Demograffig Cymru
- Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Sgrinio Coluddion Cymru
- Bron Brawf Cymru
- Sgrinio Serfigol Cymru
- Meddygfeydd Teulu sydd wedi ymuno â SAIL
- Set Ddata Meddygon Teulu Gofal Sylfaenol
- Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid
Darperir setiau data gan wahanol sefydliadau. Mae darparwr y data yn rhannu pob set ddata yn ddwy elfen.
- Elfen Ddemograffig – mae hon yn cynnwys yr wybodaeth y gellir adnabod pobl ohoni i’w hanonymeiddio.
- Elfen Cynnwys – mae hon yn cynnwys manylion eraill, fel diagnosis, meddyginiaeth, ac ati.
Anfonir yr elfen ddemograffig (1) i Iechyd a Gofal Digidol Cymru, lle mae’n cael ei ddilysu gan anonymeiddio pob cofnod a neilltuo iddo god unigryw, na ellir adnabod y person ohono. Anfonir y cod hwn, ac ychydig o wybodaeth am rywedd, ardal breswylio ac wythnos geni i Fanc Data SAIL wedyn.
Anfonir yr elfen cynnwys (2) yn uniongyrchol i Fanc Data SAIL lle caiff dwy elfen y set ddata (1 a 2) eu cysylltu â’i gilydd. Gellir defnyddio’r set ddata wedi’i hanonymeiddio gyflawn bellach ar gyfer ymchwil, yn amodol ar gymeradwyaeth.
Achrediad ISO 27001
Safon arfer gorau a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth (ISMS) yw ISO 27001. Fframwaith o bolisïau a gweithdrefnau yw ISMS sy’n cynnwys yr holl reolaethau cyfreithiol, ffisegol a thechnegol sydd gan sefydliad ar waith i ddiogelu gwybodaeth / data drwy gydol ei oes.
Mae Rhaglen SAIL wedi gweithredu System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth (ISMS) ISO 27001 a ardystiwyd yn allanol gan aseswyr diwydiant annibynnol ym mis Rhagfyr 2015. Mae ISMS ISO 27001 wedi’i ardystio yn allanol yn dangos ymrwymiad sefydliad i ddiogelu data a gwelliant parhaus ei system rheoli diogelwch gwybodaeth a rheolaethau cysylltiedig.
Mae tîm Banc Data SAIL yn credu’n gryf ym manteision ymchwil gan ddefnyddio data dienw, ac mae ganddo bolisïau a diogelwch cadarn ar waith i atal camddefnydd o ddata unigolion. Serch hynny, rydym yn deall efallai na fydd rhai unigolion yn dymuno i wybodaeth amdanynt gael ei defnyddio ar gyfer ymchwil. Os bydd rhywun yn poeni am gael eu cofnodion dienw wedi’u cynnwys yn SAIL, dylai ddarllen yr wybodaeth ar y wefan hon yn gyntaf neu gysylltu â ni am unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen arno.
Oherwydd bod Banc Data SAIL yn cynnwys data dienw yn unig ac na ellir adnabod unigolion ohono, nid yw’r gallu gennym ni ein hunain i brosesu ceisiadau optio allan. Dylai unrhyw un sy’n dymuno optio allan o ddata dienw yn gysylltiedig ag ef sy’n cael eu hanfon i SAIL neu’n cael eu defnyddio at ddibenion eilaidd, wneud ymholiad i’r darparwr/wyr data perthnasol am ba opsiynau y maent yn eu cynnig ar gyfer galluogi unigolion i optio allan. Ar gyfer cofnodion gofal sylfaenol, gall unigolion optio allan trwy wneud cais i’w meddyg teulu.
GWEITHIO GYDA SAIL
Byddai’n well gennym pe baech yn cysylltu â ni mor gynnar â phosibl i drafod eich syniadau ymchwil. Gall ein dadansoddwyr hysbysu pa un a yw SAIL yn ddewis da ar gyfer eich cwestiwn ymchwil a’r ffordd orau o alinio eich diddordebau ymchwil â’r data sydd ar gael.
Yn wahanol i lawer o ddarparwyr data ymchwil, nid ydym yn codi tâl am fynediad at y data. Rydym yn codi am y costau cymorth a seilwaith sy’n gysylltiedig â’ch prosiect yn unig (fel amser ar gyfer paratoi data a defnyddio adnoddau cyfrifiadura). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod cost ar gyfer y mwyafrif o brosiectau. Mae hon yn amrywio yn seiliedig ar gymhlethdod y prosiect, y cymorth yr hoffech ei gael gennym ni, a’r math o gyllid. Bydd manylion y costau hyn yn cael eu nodi yn ystod y broses gwmpasu.
Mae angen cydsyniad ar sail gwybodaeth i gasglu gwybodaeth y gellir adnabod pobl ohoni. Os nad yw’n ymarferol cael cydsyniad mae’n bosibl gwneud cais am hawlildiad adran a251 trwy Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd yr Awdurdod Ymchwil Iechyd. Ond pan fydd data yn cael eu defnyddio yn ddienw yn unig, nid oes gofyniad cyfreithiol o dan y Ddeddf Diogelu Data i gydsyniad unigol gael ei sicrhau. Mae hyn fel rheol yn golygu nad oes angen cydsyniad ar gyfer llwytho setiau data newydd i Fanc Data SAIL. Fodd bynnag, efallai y bydd gofynion ychwanegol ar gyfer rhai setiau data, yn seiliedig ar ffactorau fel y cytundeb y casglwyd y data yn unol ag ef neu amodau ychwanegol a orfodwyd gan berchennog y data.
Pan fydd setiau data yn cael eu casglu ar sail arfaethedig, mae angen cydsyniad ar sail gwybodaeth i ddefnyddio’r data y gellir adnabod pobl ohonynt sy’n cael eu casglu ac, ar ôl anonymeiddio, ar gyfer cysylltu dilynol â data cofnodion iechyd ym Manc Data SAIL.
Weithiau mae astudiaethau sydd â chydsyniad ar sail gwybodaeth (er enghraifft, treialon clinigol) eisiau gallu cysylltu data SAIL yn ôl i unigolion y gellir eu hadnabod. Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid bod yr unigolion hyn wedi rhoi cydsyniad pendant i gysylltu eu cofnodion meddygol. Bydd angen darparu copi o’r ffurflen gydsyniad yn dangos hyn i Fanc Data SAIL. Gyda chydsyniad lefel claf penodol ac aliniad â chytundeb darparwr data, gallwn greu’r cysylltiad gyda mewn cydweithrediad ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, fel nad oes unrhyw wybodaeth y gellir adnabod rhywun ohoni yn cael ei chyflwyno i SAIL.
* Sylwer os ydych yn bwriadu dod â data i Fanc Data SAIL i’w gysylltu bod meysydd allweddol yn ofynnol ar gyfer y broses baru ac anonymeiddio. Os hoffech ragor o wybodaeth am y system ffeiliau hollt,cliciwch yma.
Gellir, ac mae gennym brofiad o gynorthwyo prosiectau gan ddefnyddio setiau data allanol fel Ystadegau Cyfnodau Ysbyty (HES) o Loegr. Cyfrifoldeb yr ymchwilydd fydd cael mynediad at y data nad yw’n ddata SAIL, ond gallwn gynorthwyo yn y broses hon (er enghraifft, wrth weithio gyda darparwyr data yn Lloegr, maent yn aml yn gofyn sut bydd y data yn cael eu rheoli, diogelwch, ac ati) Gallwn helpu i ateb y cwestiynau hyn.
Cyfrifoldeb yr ymchwilydd yw bod yn ymwybodol o’r holl gymeradwyaeth rheoleiddio a llywodraethu sy’n ymwneud â’i astudiaeth a’i sicrhau. Yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, nid yw cymeradwyaeth foesegol yn orfodol ar gyfer astudiaethau sy’n defnyddio data dienw yn unig. Mae’r angen am adolygiad cymheiriaid yn dibynnu ar ariannwr y prosiect a gofynion noddwyr.
Y tu hwnt i hyn, mae holl brosiectau Banc Data SAIL yn cael eu hadolygu ar gyfer cymeradwyaeth gan y Panel Adolygu Llywodraethiant Gwybodaeth (IGRP). Os ydych yn gwneud cais i ddefnyddio data o’r tu allan i Fanc Data SAIL, efallai y bydd gan ddarparwr y data ofynion ychwanegol. Os oes angen cymeradwyaeth foesegol ar gyfer prosiect penodol, gellir ei sicrhau ochr yn ochr â’r cyflwyniad IGRP.
Mae’n bosibl cael gafael ar y data o bell ar blatfform bwrdd gwaith o bell diogel, o’r enw Porth SAIL, sydd wedi’i ddylunio i ddarparu mynediad i ymchwilwyr cymeradwy. Gellir cael gafael ar ddata ar gyfer prosiectau ymchwil dienw o fewn yr amgylchedd diogel hwn yn unig, felly mae’n rhaid i’r holl waith paratoi a dadansoddi data ar gyfer astudiaeth ddigwydd yn y Porth fel rheol. Bwrdd gwaith Windows safonol â phrif becynnau meddalwedd ystadegol wedi’u gosod ymlaen llaw yw’r amgylchedd. Rydym hefyd yn darparu’r gallu i ymchwilwyr osod meddalwedd arall yn ôl yr angen.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Borth SAIL, cliciwch yma.
Mae gweithio gyda data SAIL ar eu ffurf grai fel rheol yn golygu ysgrifennu ymholiadau SQL ar y gronfa ddata. Ar ôl gwaith paratoi data cychwynnol yn y gronfa ddata, mae ymchwilwyr fel rheol yn defnyddio pecynnau ystadegol cyffredin neu ieithoedd rhaglennu gwyddonol i weithio gyda’r data (fel R, Stata, Python, SAS, neu SPSS). Fodd bynnag, beth bynnag fo’ch cefndir, eich sgiliau, neu’ch dymuniad am gysylltiad ymarferol â’r data, mae gennym dîm o wyddonwyr data profiadol a all ffurfio partneriaeth â chi a chynnig lefel newidiol o gymorth. Cysylltwch i drafod opsiynau.