Gwnewch gais i weithio gyda’r data

Ein proses ymgeisio â dau gam

Mae Banc Data SAIL wedi sefydlu proses ymgeisio cyfleus ac effeithiol â dau gam i’w dilyn gan unrhyw un a hoffai gyrchu data trwy Fanc Data SAIL ar gyfer prosiectau ymchwil o ansawdd uchel.

 thros 10 mlynedd o brofiad, mae gennym un o’r prosesau ymgeisio cyflymaf sydd ar gael, sef oddeutu 12 wythnos i gael cymeradwyaeth IGRP yn dilyn cyflwyno cais.  Banc Data SAIL, erbyn hyn nid oes angen i ymchwilwyr fynd trwy amseroedd aros hir sydd yn draddodiadol yn gysylltiedig â chyrchu data cyfoethog a hanfodol.

Pa un o'r canlynol yr hoffech chi ei wneud?

Yn y lle cyntaf,cysylltwch â ni i drafod eich ymchwil Cyn i chi ymrwymo amser ac egni i’ch cais, rydym am sicrhau bod SAIL Databank yn gweddu’n dda i’ch cwestiwn ymchwil.

Cam 1 Gweithredu a Chwmpasu’r Prosiect

  • Trafodaeth gwmpasu i ffurfio syniad a hyfywedd prosiect, ac i gwblhau’r ddogfen gwmpasu sy’n nodi gweithgareddau, amserlenni, defnydd adnoddau a chostau cysylltiedig â Banc Data SAIL.
  • Yr ymchwilydd i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect os nad yw eisoes ar waith.
  • Y defnyddiwr i ymgymryd â Hyfforddiant Ymchwilydd Diogelneu ddarparu tystiolaeth o statws cymwysedig (gellir ei gwblhau ar unrhyw adeg cyn dechrau’r prosiect; adnewyddiad yn ofynnol bob dwy flynedd.

Cam 2 Llywodraethu Gwybodaeth

  • Ymchwilydd i lofnodi a chyflwyno dogfen gwmpasu prosiect a symud ymlaen i lenwi’r ffurflen gais IGRP ar-lein. Ymchwilydd i wneud cais am fynediad i system ymgeisio IGRP ar-lein trwy help.saildatabank.com
  • Yn dilyn adolygiad IGRP, hysbysir yr ymchwilydd o’r canlyniad.

Ar gyfer mynediad o bell i Borth SAIL, yna gofynnir i ymchwilwyr gwblhau ffurflen Cais am Fynediad i Ddata a ffurflen Cais am Gyfrif Porth ynghyd â chopi o CV y defnyddiwr.

Bydd angen i bob defnyddiwr ddarparu tystiolaeth o neu gofrestru i gwblhau Hyfforddiant Ymchwilydd Diogel.

Y prosiect yn cychwyn

Rhoddir gofynion/adnoddau i’r defnyddwyr i ddechrau’r prosiect yn unol â chytundebau a gyflwynir yn y Ddogfen Gwmpasu.

Llwythwch eich data eich hun i SAIL

Mae’n bosibl cysylltu data a gasglwyd yn allanol â data o Fanc Data SAIL yn amodol ar gymeradwyaeth. Er mwyn ymgorffori data newydd i Fanc Data SAIL at ddibenion cysylltu, mae dau gam syml:

Cam 1

Rhaid i’r ymchwilydd prosiect gwblhau a chyflwyno’r ffurflenni dilynol:

  • Ffurflen Gais Caffael Data
  • Ffurflen Gwmpasu Set Ddata Newydd

Cam 2

Bydd aelodau pwyllgor Rheoli Data SAIL yn archwilio eich cais i fod yn unol â pholisïau gweithredu SAIL ac yna’n anfon Cytundeb Rhannu Data SAIL.

Unwaith y bydd y Cytundeb Rhannu Data SAIL wedi’i lofnodi, byddwch yn gallu dechrau lanlwytho eich data.