Mae ymchwilwyr wedi archwilio a allai rhyw ac iselder ddylanwadu ar ba mor effeithiol y caiff lipidau gwaed eu trin mewn cleifion â risg uchel o glefyd y galon . Brasterau gwaed yw lipidau sydd, ymhlith sylweddau eraill, yn cynnwys colesterol a thriglyseridau.
Roeddent yn ystyried a oedd lefelau lipidau yn cael eu gwirio ac os felly a oedd lefelau targed canllaw ar gyfer lipidau yn cael eu cyflawni drwy brism iselder a rhyw mewn cleifion risg uchel iawn. Archwiliodd y tîm ddata ôl-weithredol a oedd ar gael ym Manc Data SAIL, a oedd yn cynnwys cleifion yng Nghymru a gafodd PCI. Defnyddiwyd data dienw ar lefel unigol dros gyfnod o 6 blynedd yn yr astudiaeth.
Cefnogwyd yr astudiaeth gan gyllid Ymchwil Data Iechyd y DU ac fe’i cynhaliwyd gan y tîm ymchwil gardiofasgwlaidd yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Darllenwch y papur llawn yma – https://doi.org/10.1371/journal.pone.0264529
Cefndir cryno
Yn 2016 cyhoeddodd Cymdeithas Cardioleg Ewrop (ESC) a Chymdeithas Atherosglerosis Ewrop (EAS) ganllaw yn rhoi cyngor ar lefelau targed o lipidiau mewn cleifion â chlefyd y galon a’r rhai sy’n wynebu’r risg o hynny. Cleifion sydd wedi cael Ymyriad Coronaidd Drwy’r Croen (PCI); byddai triniaeth i ehangu’r rhydwelïau sy’n cyflenwi gwaed ocsigenedig i’r galon yn cael ei hystyried ymhlith y risgiau uchaf.
Mae Cymdeithas Cardioleg Ewrop yn gymdeithas feddygol ddi-elw a arweinir gan wirfoddolwyr y mae ei haelodau’n wyddonwyr, clinigwyr, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol sy’n gweithio ym mhob maes cardioleg. Diben Cymdeithas Atherosglerosis Ewrop yw addysgu clinigwyr i reoli lefelau lipidau uchel ac atal atherosglerosis – cyflwr lle mae plac yn cronni mewn waliau rhydwelïau, a achosir gan lipidau, sy’n lleihau llif gwaed a chyflenwad ocsigen i organau’r corff.

Gofynnwyd i’r prif ymchwilydd, Dr. Libby Ellins, ddweud mwy wrthym am yr astudiaeth,
Pam mae angen yr astudiaeth hon?
Gwyddom fod gan gleifion sydd wedi cael digwyddiad y galon risg uchel o gael un arall. Dangoswyd bod rheoli ffactorau risg fel lipidau yn lleihau’r risg hon. Bu canllawiau diweddar ar y cyd gan ESC ac EAS yn ystyried tystiolaeth newydd o dreial clinigol ac maent yn argymell targedau llawer is, yn enwedig mewn cleifion risg uchel. Mae gwaith blaenorol hefyd wedi dangos bod cleifion ag iselder sydd â chlefyd y galon yn wynebu mwy o risg o ddigwyddiadau yn y dyfodol na’r rhai heb iselder.
Hefyd, mae fenywod, sy’n fwy tebygol o gael iselder na dynion, yn cael canlyniadau gwaeth yn dilyn PCI. Roeddem am weld a oedd iselder a rhyw yn dylanwadu ar y tebygolrwydd y bydd lefelau lipidau cleifion yn cael eu gwirio ac y caiff targedau canllaw eu cyflawni.
Sut defnyddioch chi Fanc Ddata SAIL i gefnogi eich gwaith?
Fe wnaeth Banc Data SAIL ein galluogi ni i ddefnyddio cofnodion ysbytai i ddod o hyd i gleifion a oedd wedi cael PCI rhwng 2012 a 2017 a chysylltu’r data hyn â’u cofnodion meddyg teulu. Roedd hyn yn ein galluogi i weld pwy oedd wedi cael gwirio eu lefelau lipidau, pa feddyginiaethau i ostwng lipidau oedd wedi’u rhagnodi ac a gyflawnwyd targedau canllaw ESC/EAS yn ystod y flwyddyn ar ôl eu triniaeth. Roedd hefyd yn caniatáu i ni archwilio a allai rhyw ac iselder fod wedi dylanwadu ar y canlyniadau hyn.
Beth ddywedodd y data wrthych chi?
Gwelsom fod cleifion a brofodd iselder cyn y PCI yn llai tebygol o fod wedi cael gwirio eu lefelau lipidau yn y flwyddyn yn dilyn PCI, ar ôl ystyried ffactorau eraill fel clefyd y galon blaenorol a diabetes. Gwelsom hefyd mai menywod ag iselder oedd y grŵp lleiaf tebygol o gael gwirio eu lefelau lipidau a chyrraedd targedau canllaw. Cafodd y targedau hyn eu pennu ar sail tystiolaeth sy’n dangos bod cyflawni’r lefelau hyn yn arwain at leihad pellach yn y risg o ddigwyddiadau cardiaidd yn y dyfodol fel trawiadau ar y galon.
Beth yw’r goblygiadau posibl ar gyfer ymarfer clinigol yn sgil yr ymchwil hon?
Mae hyn wedi nodi grŵp o gleifion risg uchel iawn a allai fod â mwy o risg o ddigwyddiadau yn y dyfodol o ganlyniad i driniaeth sy’n llai nag optimaidd ac a ddylai elwa o reoli lipidau yn well er mwyn lleihau’r risg hon.
Darllenwch y papur llawn yma – https://doi.org/10.1371/journal.pone.0264529