Offer Dadansoddol a’r Amgylchedd

SeRP a Phorth SAIL.

Mae Banc Data SAIL yn defnyddio Cyfrifiadura Perfformiad Uchel a’r Platfform eYmchwil Diogel (SeRP) i alluogi data cymhleth lluosog gael eu cyrraedd, eu rheoli a’u dadansoddi. Rydym yn gallu gweithio gyda mathau o ddata sy’n dod i’r amlwg fel data testun rhydd, delweddu, genetig a daearyddol. Yn dibynnu ar eich gofynion, gallwn deilwra pecynnau i gynnig hwb cyfrifiadura yn unol â manyleb a maint storio eich cyfrifiadur bwrdd gwaith o bell, a hwyluso prosiectau sy’n cynnwys Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Phrosesu Iaith Naturiol.

Mae gan y mecanwaith cysylltu data o’r radd flaenaf yn SeRP y fantais ychwanegol o dynnu sylw at unrhyw anghysondebau a gwella ansawdd a chysondeb eich data ar gyfer gwaith ymchwil.

Dyluniwyd Porth SAIL i roi amgylchedd Windows cyfarwydd i ddefnyddwyr â llu o setiau offerynnau a chymwysiadau. Mae offerynnau ymholi SQL a chymwysiadau a ddefnyddir yn gyffredin, fel MS Office, SPSS, ac R, yn cael eu cynnwys yn safonol. Mae cymwysiadau eraill fel STATA hefyd ar gael am ffi drwyddedu fach. Mae rhestr lawn o’r holl feddalwedd sydd ar gael (gan gynnwys fersiynau) ar gael ar gais.

Gall defnyddwyr hefyd wneud cais i ychwanegu cymwysiadau y maent yn meddu ar drwydded ar eu cyfer, a gofyn am ganiatâd i fewngludo ffeiliau nad ydynt yn rhai data fel sgriptiau cystrawen a dogfennau cyfeirio os oes angen.

Beth mae SeRP yn ei wneud i SAIL?

  1. Platfform mynediad o bell yw Porth SAIL i alluogi ymchwilwyr cymeradwy i ddefnyddio rhith-amgylchedd o’u cyfrifiaduron bwrdd gwaith eu hunain, ble bynnag yn y byd y maen nhw. Mae protocolau llym yn galluogi dilysiad a monitro defnyddwyr, ac yn atal defnyddwyr rhag diwygio neu ddileu data SAIL.
  2. Llywodraethiant Gwybodaeth i sicrhau bod data sy’n seiliedig ar bobl â risg preifatrwydd uchel yn cael eu rheoli i’r safonau ISO 27001 uchaf. Y canlyniad yw bod Banc Data SAIL yn cael ei ymddiried gan sefydliadau fel y GIG a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac wedi’i gymeradwyo gan Gymdeithas Feddygol Prydain.
  3. Mae model preifatrwydd trwy ddyluniad SAIL yn cwmpasu cyfres o reolaethau ffisegol, technegol a gweithdrefnol a ddefnyddir ar gyfer y data a’r amgylchedd data. Mae rheolaethau mynediad at ddata SeRP yn sicrhau bod ymchwilwyr yn cael gweld y data yn unig ac nid tynnu data o’r Banc Data
  4. Gellir newid graddfa technoleg SeRP i ymdopi â delweddu, genomeg a thestun rhydd i gefnogi amrywiaeth SAIL o fathau o ddata. Mae’r amgylchedd hwn, a chyfres o offerynnau dadansoddi y gellir eu teilwra, yn cynnig hwb cyfrifiadura i ddefnyddwyr i hwyluso prosiect sy’n cynnwys Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Phrosesu Iaith Naturiol.
  5. Mae SeRP yn cynnig meddalwedd cysylltu data arobryn LinXmart gan ganiatáu i ymchwilwyr nodi patrymau ar draws poblogaethau cyfan. Mae gan y dull cysylltu data o’r radd flaenaf hwn y fantais ychwanegol hefyd o dynnu sylw at unrhyw anghysondebau a gwella ansawdd y data ar gyfer ymchwil.