Pecynnau

Ein 3 strwythur prisio adennill costau.

Mae Banc Data SAIL yn cael ei weithredu ar sail ‘ddielw’ a bwriedir iddo fod yn hygyrch ac yn fforddiadwy i’r sbectrwm ehangaf posibl o’r gymuned ymchwil. Ariennir rhai elfennau o SAIL yn rhannol o ffynonellau canolog, ac felly fe’u darperir i’r gymuned ymchwil ar gyfradd sydd wedi’i sybsideiddio yn drwm, ac mae’n rhaid i elfennau eraill gael eu hariannu yn llawn gan brosiectau sy’n defnyddio’r gwasanaeth SAIL.

Caiff taliadau eu cyfrifo ar sail model adennill costau, ac fel y cyfryw nid yw Banc Data SAIL yn gwneud elw ac nid yw’n endid masnachol. Gall Banc Data SAIL ddarparu pecyn cymorth wedi’i deilwra yn seiliedig ar 3 prif strwythur prisio…

  • Cyfradd safonol
  • Cyfradd sector cyhoeddus
  • Costau Economaidd Llawn (FEC) – ar gyfer mentrau academaidd cydweithredol ffurfiol

Mae cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn talu costau tîm canolog bach yn rhannol i wneud gwaith caffael data, llwytho a chysylltu setiau data craidd, a chynnal holl seilwaith technegol SAIL, gyda phrosiectau unigol yn gwneud cyfraniad bach ar gyfradd wedi’i sybsideiddio. Mae prosiectau unigol yn talu’r holl gostau eraill sy’n gysylltiedig â’u prosiect.

Os na cheir cymeradwyaeth y Panel Adolygu Llywodraethiant Gwybodaeth Annibynnol (IGRP) ar gyfer prosiect, ni chodir unrhyw dâl.

Mae tîm Banc Data SAIL yn cadw’r hawl i wrthod proses unrhyw gais am fynediad at SAIL ar unrhyw adeg cyn rhoi cymeradwyaeth IGRP. Yn yr achos hwn, bydd adborth yn cael ei ddarparu i’r prosiect yn rhoi rhesymau pam nad yw’r cais yn cael ei ddatblygu.

I gael gafael ar gostau ar gyfer defnyddio gwasanaethau SAIL, cysylltwch â ni yn https://saildatabank.com/contact/