Tîm Gwasanaethau Dadansoddol

Sefydlwyd tîm gwasanaethau dadansoddol Banc Data SAIL yn 2014 i gynorthwyo defnyddwyr Banc Data SAIL. Dros amser, mae ein gwasanaethau wedi tyfu i fod yn grŵp rhyng-ddisgyblaeth o wyddonwyr data sy’n cydweithredu â grwpiau ymchwil mewnol ac allanol ar wahanol brosiectau. Mae’r tîm yn arwain prosiectau methodolegol Banc Data SAIL ei hun o ran datblygu dulliau newydd o weithio gyda setiau data mawr.

Mae gwasanaeth cwmpasu prosiectau’r tîm dadansoddol yn helpu darpar ddefnyddwyr Banc Data SAIL i ddeall y posibiliadau a helpu i lunio cwestiynau ymchwil o gwmpas ein data. Gall y tîm gynnig awgrym o faint o gymorth sy’n debygol o fod ei angen ar gyfer y prosiect a chostau cysylltiedig, gan gynnig gwerth rhagorol am arian. Yn ystod y cam ymgeisio, mae aelodau uwch o’r tîm gwasanaethau dadansoddol hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith o adolygu’r ceisiadau i ddefnyddio Banc Data SAIL ar gyfer canlyniadau ymchwil diogel ac effeithiol.

Gall y tîm gynorthwyo unrhyw brosiect yn amrywio o syniadau sydd wedi’u datblygu yn llawn, sydd â chwestiwn ymchwil eglur, dull a rhestr bendant o setiau data sydd eu hangen, i brosiectau cam cynnar sydd angen cymorth a chyngor i helpu i ddiffinio neu fireinio syniadau a dulliau ymchwil.

Mae gwasanaethau cymorth Banc Data SAIL yn cynnig siop un stop hyblyg, syml a chynnil sy’n datgloi potensial data a gesglir fel mater o drefn i geisio bod o fudd i’r cyhoedd.

Mae enghreifftiau o’r rhaglenni a’r prosiectau ymchwil a arweiniwyd neu a gynorthwywyd gan y tîm ar gael yma yn Adroddiad Blynyddol 2020 y Tîm Gwasanaethau Dadansoddol.

 

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am dimau Banc Data SAIL