Mae’r Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth (IGRP) yn darparu cyfarwyddyd a chyngor annibynnol ar bolisïau, gweithdrefnau a phrosesau Llywodraethu Gwybodaeth ar gyfer Banc Data SAIL. Mae’r Panel yn adolygu’r holl gynigion i ddefnyddio Banc Data SAIL i sicrhau eu bod yn briodol ac er budd y cyhoedd, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o wahanol sefydliadau a sectorau, gan gynnwys:
- Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru Wales
- Llywodraeth Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Gwasanaeth Moeseg Ymchwil Cenedlaethol
- Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- Y cyhoedd
Mae’r holl fynediad i Fanc Data SAIL yn cael ei fonitro’n agos a chyn i unrhyw ddata gael ei gyrchu, rhaid i’r IGRP annibynnol roi cymeradwyaeth.
Fel gwarcheidwaid data, diogelu hunaniaeth unigol data sy’n seiliedig ar berson ynghyd â diogelwch cyffredinol y data a storir o fewn Banc Data SAIL yw ein brif flaenoriaeth. Mae’r holl gynigion i ddefnyddio Banc Data SAIL yn destun adolygiad gan Banel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth annibynnol (IGRP). Mae ein prosesau a gweithdrefnau yn sicrhau anhysbysrwydd llwyr bob amser tra’n caniatáu i ymchwil fynd ymlaen er lles cymdeithas.
Wrth wneud cais i weithio gyda Banc Data SAIL mae angen i chi wneud cais i’n IGRP.