Ffederasiwn

Wrth i ymchwil data barhau i esblygu, mae diddordeb cynyddol mewn sut gall Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy (TRE) ac Amgylcheddau Data Diogel (SDE) weithio’n agosach ar draws y DU mewn ymagwedd o’r enw “ffederasiwn”. Nod y ffederasiwn yw galluogi defnyddwyr a phrosiectau a gymeradwywyd i weithio gyda data sy’n cael ei gadw ar draws gwahanol systemau diogel yn fwy effeithlon drwy amrywiaeth o fodelau ac ymagweddau ffederasiwn. Ar hyn o bryd, mae’r ffederasiwn yn datblygu o ran yr ymagweddau sydd ar gael a’r prosesau a pholisïau sydd ar waith, gyda SAIL yn gweithio tuag at hyn drwy’r prosiect SAFER, sy’n gam pwysig wrth archwilio sut gall hyn gael ei wireddu’n ddiogel, gyda llywodraethiant cryf, parhaus yn ei le.

Y Prosiect SAFER

Cafodd y prosiect SAFER, a ariennir gan DARE UK, ei greu i alluogi ymchwil ryngddisgyblaethol, ar raddfa fawr ar draws Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy (TRE). Mae Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Amgylcheddau Data Diogel (SDE), yn darparu mynediad diogel at ddata sensitif ar gyfer ymchwil sydd o fudd cyhoeddus. Fodd bynnag, oherwydd bod pob TRE yn gweithredu dan fframweithiau cyfreithiol, moesegol a llywodraethiant gwahanol, gall fod yn heriol cyfuno a dadansoddi data ar draws rhanbarthau neu sefydliadau. Mae hyn yn cyfyngu ar y posibilrwydd o ymchwil ar raddfa fawr a allai ddarparu gwybodaeth am heriau cenedlaethol.

SAFER_DARK_STACKED
SAFER13

Amcanion SAFER

Erbyn diwedd y prosiect, nod y tîm SAFER yw gwerthuso sut gall ymchwil wedi’i ffedereiddio gael ei chwblhau’n ddiogel, yn gyfreithiol ac yn gyson ar draws TREau. Mae’r nodau’n cynnwys:

  1. Modelau llywodraethu cyfunol priodol – gan ei gwneud hi’n glir sut gall ymchwil gyfunol weithredu’n ddiogel yn unol â’r gyfraith.
  2. Darparu arweiniad ymarferol ar gyfer TREau, ymchwilwyr, a rhanddeiliaid – esbonio’r hyn y mae ffedereiddio yn ei olygu mewn ymchwil dydd i ddydd.
  3. Dechrau’r sgyrsiau â’r cyhoedd – creu adnoddau clir, hygyrch, gan gynnwys creu cynnwys ysgrifenedig a fideos, i esbonio ffedereiddio a’i heffaith.
  4. Paratoi’r ffordd ar gyfer mabwysiadu ehangach – creu adroddiad terfynol gydag argymhellion, heriau allweddol a chyfleoedd i helpu TREau i roi ymchwil wedi’i ffedereiddio ar waith.

Y Gynhadledd SAFER

Daeth ymchwilwyr, aelodau’r cyhoedd, llunwyr polisi ac arbenigwyr llywodraethu data ynghyd yn ein cynhadledd SAFER am ddigwyddiad wyneb yn wyneb: Archwilio Ffedereiddio ac Arloesedd – digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid dan arweiniad Banc Data SAIL mewn cydweithrediad â DARE UK, SeRP, HDR UK ac ADR UK. Daeth y digwyddiad â gweithwyr proffesiynol ynghyd o dirwedd ymchwil data’r DU i drafod un o heriau mwyaf dybryd data wedi’i ffedereiddio: sut i alluogi dadansoddi wedi’i ffedereiddio, mewn modd diogel, cyfreithiol ac effeithlon mewn Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy ac Amgylcheddau Data Diogel, a rhyngddynt. Gwnaeth y digwyddiad gyflwyno gwybodaeth ar draws ystod o bynciau wedi’u ffedereiddio, gyda thîm y prosiect SAFER yn gofyn am fewnbwn gan fynychwyr ac yn gofyn cwestiynau drwy gydol y dydd mewn 6 gweithdy.

Blogiau SAFER

Mae’r tîm SAFER yn trafod y cynnydd a wnaed hanner ffordd drwy’r prosiect tuag at wireddu ei amcanion cyffredinol: Adolygu modelau llywodraethiant a modelau wedi’u ffedereiddio Banc Data SAIL, yr asesiadau cyfreithiol a diogelwch, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a phanelau cyhoeddus.

Ashley Akbari, Athro mewn Ymchwil Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, ac arweinydd thema ADR Cymru a phennaeth Gwasanaethau Defnyddiwr a Data SAIL (UDSS) ac Arloesedd Ymchwil ym Manc Data SAIL sy’n trafod y canfyddiadau a’r ystyriaethau a gasglwyd mewn gweithdy prosiect SAFER ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Animeiddiadau Fideo

Mae ein gwaith ar y prosiect SAFER wedi arwain at greu tri fideo animeiddiedig sydd wedi’u teilwra ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol. Mae’r fideos hyn yn helpu i esbonio ymagwedd SAIL tuag at ffedereiddio i ymchwilwyr, perchnogion data ac aelodau’r cyhoedd.

SAFER ar Gyfer y Cyhoedd

SAFER ar Gyfer Perchnogion Data

SAFER ar Gyfer Ymchwilwyr

Sut mae SAFER yn cefnogi ‘TREvolution’ – esblygiad Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy

Mae SAFER yn adeiladu’n uniongyrchol ar Brosiectau Sbarduno blaenorol DARE UK, TRE-FX a TELEPORT, a wnaeth brofi agweddau technegol ffedereiddio, sydd bellach yn cael eu datblygu ymhellach fel rhan o TREvolution. Trwy ganolbwyntio ar lywodraethiant priodol, arweiniad ymarferol ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid, mae SAFER yn ategu’r ymdrechion hyn ac yn mynd i’r afael ag un o’r rhwystrau mwyaf i ddadansoddi wedi’i ffedereiddio: sicrhau ei fod yn gyfreithiol, yn foesegol, ac y gellir ymddiried ynddo ar gyfer ymchwil er budd y cyhoedd.

Am y prosiectau Mabwysiadwyr Cynnar DARE UK

Mae prosiectau Mabwysiadwyr Cynnar DARE UK yn brosiectau arloesol sy’n helpu i roi’r safonau a’r arloesiadau sy’n cael eu creu drwy TREvolution ar waith. Gan weithio ar draws mwy na 10 o Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy, gan gynnwys pum Amgylchedd Diogelu Data is-genedlaethol y GIG yn Lloegr, mae’r prosiectau hyn yn dod ag ymchwilwyr, gweithredwyr TRE ac aelodau’r cyhoedd ynghyd. Eu rôl yw profi’r ymagweddau newydd mewn lleoliadau byd go iawn, gan sicrhau eu bod yn ymarferol, yn effeithiol, ac yn ddiogel cyn eu mabwysiadu’n ehangach ar gyfer ymchwil er bydd y cyhoedd.