Astudiaethau Carfan

Os yw eich ymchwil yn astudio carfannau â nodweddion neu gyflyrau penodol, yna mae gan Fanc Data SAIL ddata hydredol sydd ar gael i chi ei ddefnyddio i gefnogi damcaniaeth eich ymchwil. Mae Cronfa Ddata SAIL wedi cipio cofnodion unigol o boblogaeth gyfan yn cwmpasu rhwng 10 a 20 mlynedd.

Mae cymariaethau traws-garfan lle mae data Cymreig yn cael ei gymharu â data o wlad arall i nodi tebygrwyddau neu wahaniaethau rhwng poblogaethau neu grwpiau yn ffordd wych o ddefnyddio Data SAIL. Mae’n cynnig adnodd gwerthfawr fel grŵp rheoli meincnod ar gyfer eich astudiaeth gysylltiadau data.

Felly, p’un a yw eich ymchwil yn ôl-weithredol neu’n arfaethedig, mae Data SAIL yn lleihau’r gost ac amser sylweddol sy’n gysylltiedig â chasglu data hydredol ar gyfer astudiaethau carfan arsylwadol. Mae hefyd yn lleihau’r cyfraddau gadael sydd fel arfer yn gysylltiedig â chasglu data yn y tymor hir.

Astudiaethau carfan a gyhoeddwyd yn ddefnyddio SAIL: