Oherwydd y cyfoeth o ddata sy’n bresennol, mae SAIL yn werthfawr ar gyfer astudiaethau rheoli achos lle mae canlyniadau’n cael eu cymharu ym mhresenoldeb ac absenoldeb datguddiadau neu ymyriadau. Gall ymchwil epidemiolegol elwa’n fawr o ddata cysylltiedig Banc Data SAIL. Nid yn unig rydym yn dal biliynau o gofnodion iechyd sy’n seiliedig ar berson i roi cryfder i’ch astudiaeth, mae Banc Data SAIL hefyd yn dal data ychwanegol i roi golwg fwy crwn i’ch astudiaeth megis gwasanaethau cymdeithasol, addysg, data iechyd a data iechyd meddwl.
Byddai unrhyw ymchwil nad oes angen ei chynnal ar boblogaeth o leoliad daearyddol penodol yn elwa o gysylltiadau data sy’n defnyddio data SAIL e.e. astudiaethau sy’n galw am gofnodion o grwpiau penodol fel menywod beichiog, pobl o grŵp oedran penodol neu bobl â salwch penodol ac ati.
Astudiaethau rheoli achos a gyhoeddwyd yn ddefnyddio SAIL:
- Tystiolaeth am ormodedd cyson, parhaus ym mhob derbyniad achos cleifion i’r ysbyty mewn plant â diabetes math-1: canlyniadau astudiaeth garfan gymunedol gyfatebol genedlaethol Gymreig
- A yw symudedd preswyl mynych yn y blynyddoedd cynnar yn effeithio ar dderbyniad ac amseroldeb imiwneiddiadau arferol? Astudiaeth garfan ddienw