Cynhelir Banc Data SAIL gan Brifysgol Abertawe ac mae’n rhan o’i nawdd ar gyfer atebolrwydd sefydliadol. Darperir cyfarwyddyd strategol gan Grŵp Rheoli SAIL gyda chanllawiau gan Bwyllgor Cynghori Gwyddonol Rhyngwladol, a rheolir y gwaith o’i redeg o ddydd i ddydd gan Grŵp Gweithrediadau.
Gall ein darparwyr data hefyd ddefnyddio lefel ychwanegol o gymeradwyaeth i gael mynediad at eu data yn SAIL. I ymchwilwyr sy’n dymuno cael mynediad at y setiau data ‘dan gyfyngiadau’ hyn, mae angen cymeradwyaeth Pwyllgor Moeseg ar wahân gan ddarparwr y data, yn ogystal â phroses ymgeisio IGRP safonol SAIL.